1 val yr oeddwn yn myned
2 Dros vynydd gwyr krevydd kred
3 am hen dudded am danaf
4 val amayth mewn hirayth haf
5 nacha gayngen ar yr hr(x)os
6 O vorwyn ym kyvaros
7 kyvarch meddwl alarch mwyn
8 gwell iddi ddyn gall addwyn
9 ateb a wnayth i ffrydydd
10 ateb serch om tyb y sydd
11 kyd gerdded val merched mai
12 ac oerddyn ni chydgerddei
13 gosyml vvm am vorwyn lan
14 gosyml ni bu am gusan
15 kanhmol i llygaid gloywionn
16 kanhmoid priveirdd heirdd honn
17 govyn kyn del rryveloedd
18 a vynnai vi vy nef oedd
19 [42] Ni chay vab o ayl y vro
20 vn ateb na wnn eto
21 Down i lann badarn dduw sul
22 Ne ir davarn wr divvl
23 ac yno ynyr argoed
24 Ne ny nef ni a wnawn oed
25 Ni vynnwn rac kayl gogan
26 wybod y mod mewn bedw man
27 llwfr iawn ym bernir oth serch
28 a dewrddyn yw dy ordderch
29 Nac eiriach diledach do
30 Er kynnen y wraig honno
31 mi a wnn blas o lasgoed
32 ar ail nis gwybu er ioed
33 ac nis gwybydd dyn eiddig
34 tra vo llenn ar brenn a brig
35 [43] kymryd vyngheniad vorwyn
36 keidwades llydrones llwyn
37 Ni wnai hokrell avrywiog
38 a wnayth oi gair nith y gog
39 addo ffol am gwnain llawen
40 addewid gwir vydd oed gwenn
Dauit ap guili'